Whilst wishing the Prif Weinidog a good new year, Cymdeithas yr Iaith has said that the Government needs to do much more to reach the target of one million speakers by 2050.

Members of Cymdeithas left a New Year's card at Eluned Morgan's office in Haverfordwest today (03/01/2025). The card draws attention to the fact that there are only 25 years left to reach one million speakers and that urgent action is needed in order to reach that goal.

Josef Gnagbo, Chair of Cymdeithas yr Iaith said:

“The Government is not taking its own target of a million Welsh speakers by 2050 seriously. The results of the 2021 Census and the Government’s response to them show that. The Government set this target in 2016 but during all that time we have not seen the action needed to reach it. The number and percentage of Welsh speakers fell across Wales, especially in its traditional strongholds.

“As things stand, big opportunities are being missed - the Welsh Language and Education Bill is being presented to the Senedd later this month, but it will not ensure that everyone receives Welsh education. Since committing early in 2024 to create a broadcasting body to pave the way for the devolution of powers over broadcasting nothing has happened. The white paper on housing published in November did not give people any rights to a home; and a response to the Commission for Welsh-speaking Communities' report, published in August, is not expected until the spring.”

Cymdeithas yr Iaith is calling on the Government to act at once, starting with the following priorities:

  • Significantly strengthen the Welsh Language and Education Bill in order to give Welsh education to everyone
  • Establish a Broadcasting and Communications Body as a matter of urgency, in order to pave the way for the devolution of broadcasting, as has been promised
  • Prepare to introduce a Property Act to enable people to have a home in their communities
  • Implement the recommendations of the Commission for Welsh-speaking Communities and create a Strategy for Rural Areas in order to protect and restore Welsh communities
  • Extending clear rights through legislation for people to be able to use the Welsh language in all parts of their lives. In particular, by extending the obligation to provide Welsh language services to the private sector
  • Extend the provision of health and care in Welsh by ensuring the effective implementation of legislation including the More Than Words Strategy
  • Developing the use of the Welsh language in technology
  • Ensuring that the Welsh language is mainstreamed as a working language in the civil service and in other workforces.

Joseph Gnagbo added:

“Although time is short, it is not too late. If the Government is serious about the Welsh language it must act proactively across a number of areas and make the language a priority. Cymdeithas yr Iaith's campaigning will hold this Government to account and we are calling on all our supporters to join in the work at the beginning of 2025.”


Ymgyrchwyr yn galw am weithredu ar frys wrth gyflwyno neges Calan i Eluned Morgan

Wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i’r Prif Weinidog, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod angen i’r Llywodraeth wneud llawer mwy os ydyn nhw am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Cymdeithas members leaving the card at Eluned Morgan's office in Haverfordwest
Aelodau’n cyflwyno’r cerdyn blwyddyn newydd (Photo supplied)

Gadawodd aelodau’r Gymdeithas gerdyn Calan yn swyddfa Eluned Morgan yn Hwlffordd heddiw (03/01/2025). Mae’r cerdyn yn tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 25 mlynedd sydd ar ôl i gyrraedd miliwn o siaradwyr a bod angen gweithredu brys er mwyn gwireddu’r nod.

Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Dydy’r Llywodraeth ddim yn cymryd ei tharged ei hunan o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 o ddifri. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 ac ymateb y Llywodraeth iddyn nhw’n dangos hynny. Mae’r Llywodraeth wedi gosod y targed yma ers 2016 ond ar hyd yr amser ers hynny dydyn ni ddim wedi gweld y gweithredu sydd ei angen i’w gyrraedd. Cwympodd nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru, yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol.

“Fel mae pethau, mae cyfleoedd mawr yn cael eu colli - mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yn hwyrach yn y mis, ond fydd e ddim yn rhoi addysg Gymraeg i bawb. Ers ymrwymo yn gynnar yn 2024 i greu corff darlledu i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli grymoedd dros ddarlledu does dim byd wedi digwydd. Doedd y papur gwyn ar dai a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd ddim yn rhoi unrhyw hawliau i bobl i gartref; a does dim disgwyl ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Awst, tan y gwanwyn.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i fynd ati ar unwaith gan ddechrau gyda’r blaenoriaethau canlynol:

  • Cryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg yn sylweddol er mwyn rhoi addysg Gymraeg i bawb
  • Sefydlu Corff Darlledu a Chyfathrebu ar fyrder er mwyn paratoi’r ffordd at ddatganoli darlledu, fel sydd wedi ei addo
  • Cynllunio i gyflwyno Deddf Eiddo er mwyn galluogi pobl i gael cartref yn eu cymunedau
  • Gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a chreu Strategaeth Ardaloedd Gwledig er mwyn diogelu ac adfer cymunedau Cymraeg
  • Ymestyn hawliau clir drwy ddeddfwriaeth i bobl allu defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau. Yn arbennig, trwy ymestyn y rhwymedigaeth i'r sector preifat ddarparu gwasanaeth Cymraeg
  • Ymestyn y ddarpariaeth iechyd a gofal yn Gymraeg trwy sicrhau gweithredu deddfwriaeth gan gynnwys Strategaeth Mwy na Geiriau yn effeithiol
  • Datblygu defnydd y Gymraeg ym maes technoleg
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio fel iaith gwaith yn y gwasanaeth sifil ac mewn gweithluoedd eraill.

Ychwanegodd Joseff Gnagbo:

“Er bod amser yn brin, dydy hi ddim yn rhy hwyr. Os ydy’r Llywodraeth o ddifri am y Gymraeg rhaid gweithredu yn flaengar ar draws nifer o feysydd a gwneud yr iaith yn flaenoriaeth. Bydd ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif ac rydyn ni’n galw ar ein holl gefnogwyr i ymuno yn y gwaith ar ddechrau 2025.”